Senedd Cymru | Welsh Parliament 
 Ymchwil y Senedd | Senedd Research 
 Hawl Plant ADY i Gymorth yn Seiliedig ar Anghenion
 Y Pwyllgor Deisebau | 2 Mawrth 2026
 Petitions Committee | 2 March 2026
 Cyfeirnod: SR2026/13164-2
Cyflwyniad

Rhif y ddeiseb: P-06-1559

Teitl y ddeiseb: Cynnal Hawl Plant ADY i Gymorth yn Seiliedig ar Anghenion ac Addysg Llawn Amser yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb:   Mae plant ag ADY yn cael eu gwrthod rhag cael addysg a chymorth amser llawn yng Nghymru — oni bai bod ganddyn nhw ddiagnosis ffurfiol. Mae hyn yn groes i gyfraith Cymru, sy'n dweud bod rhaid i gymorth fod yn seiliedig ar angen, nid diagnosis.

Er gwaethaf darpariaethau clir yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'r Cod ADY, mae llawer o awdurdodau lleol yn gwrthod darparu cymorth oni bai bod gan blentyn ddiagnosis ffurfiol. Nid yn unig y mae hyn yn anghyfreithlon — gan fod y gyfraith yn nodi bod yn rhaid i gymorth fod yn seiliedig ar angen — ond mae hefyd yn arwain at wrthod addysg amser llawn i blant, eu gadael ar amserlenni llai, neu allan o'r ysgol yn gyfan gwbl.

Fel rhiant i blentyn ag anghenion dysgu ychwanegol, rwyf wedi gweld, o brofiad uniongyrchol, pa mor anodd yw cael mynediad at gymorth yng Nghymru oni bai bod diagnosis ffurfiol ar waith. Mae hyn yn mynd yn uniongyrchol yn erbyn cyfraith Cymru, sy'n nodi'n glir bod rhaid i ddarpariaeth fod yn seiliedig ar anghenion. Mae fy mhlentyn, fel llawer o rai eraill, wedi cael ei wrthod o’r cymorth a’r addysg amser llawn y mae'n ei haeddu — nid oherwydd bod ei anghenion yn aneglur, ond oherwydd bod y system yn rhoi blaenoriaeth anghywir i ddiagnosis dros gymorth.

1. Trosolwg

Mae'r deisebydd yn dadlau bod plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael eu hamddifadu o gefnogaeth briodol ac addysg amser llawn oni bai bod ganddynt ddiagnosis ffurfiol, sydd, yn ôl y deisebydd, yn mynd yn groes i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'r Cod ADY, y mae'r ddau ohonynt yn gofyn am ddarpariaeth yn seiliedig ar anghenion, yn hytrach nag yn seiliedig ar ddiagnosis. Mae’n honni bod diffyg mynediad yn seiliedig ar ddiagnosis yn arwain at amserlenni llai, darpariaeth ran-amser, neu at dynnu plant allan o'r ysgol yn gyfan gwbl.

Mae'r ddeiseb wedi’i lleoli o fewn dadl ehangach ynghylch gweithredu diwygiadau ADY, lle codwyd pryderon ynghylch anghysondebau ym mhroses benderfynu awdurdodau lleol, gorddibyniaeth ysgolion weithiau ar ‘ddarpariaeth gyffredinol’, a nifer lai o ddysgwyr yn cael cymorth ADY (AAA gynt) ers cyflwyno’r system newydd.

Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu'r broses weithredu ac yn gweithredu i’w gwneud yn eglur pwy sy'n cael cymorth a sut, gan geisio datrys anghysondebau yn y ffordd y mae'r gyfraith yn cael ei dehongli a'i chymhwyso ledled Cymru. Canfu gwaith craffu'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ac adroddiad Estyn ym mis Rhagfyr 2024 hefyd fod y Cod ADY yn cael ei ddehongli’n anghyson, yn enwedig o ran paratoi cynlluniau datblygu unigol (CDU).

2. ADY: Deddfwriaeth, diffiniadau, a chymorth i ddysgwyr

2.1. Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Gwnaeth Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ddisodli'r hen system anghenion addysgol arbennig (AAA) gyda fframwaith anghenion dysgu ychwanegol (ADY) unedig ar gyfer dysgwyr 0-25 oed. Mae'n nodi'r fframwaith statudol ar gyfer nodi, cynllunio a darparu cefnogaeth i ddysgwyr ag ADY, ac yn cyflwyno un statws statudol, y cynllun datblygu unigol (CDU), ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc ag ADY, gan ddileu'r rhaniad blaenorol rhwng cefnogaeth dan arweiniad yr ysgol a datganiadau awdurdodau lleol. Nod y Ddeddf yw cryfhau cydweithio rhwng ysgolion, awdurdodau lleol, a byrddau iechyd, a gwella prosesau datrys anghydfodau drwy Dribiwnlys Addysg Cymru, sydd newydd gael ei ailenwi.

Mae Adran 2 o'r Ddeddf yn diffinio ADY o ran a oes gan ddysgwr anhawster dysgu neu anabledd sy'n galw am Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol, yn hytrach na chyfeirio at unrhyw ofyniad am ddiagnosis meddygol. Mae'n pwysleisio bod ADY yn codi lle mae’r dysgwr yn wynebu anawsterau o ran dysgu sydd lawer mwy na'r rhan fwyaf o bobl eraill o'r un oedran, neu anabledd sy'n rhwystr o ran cael mynediad at addysg. Rhaid i’r anhawster dysgu neu anabledd fod angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol, y mae adran 3 o'r Ddeddf yn ei diffinio fel darpariaeth sy'n ychwanegol neu'n wahanol i'r hyn sydd ar gael yn gyffredinol, i gael ei ystyried yn ADY. Mae'r angen am ddarpariaeth sy'n seiliedig ar anghenion wedi'i gynnwys mewn adrannau ar ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a chynlluniau datblygu unigol.

2.2. Y Cod ADY

Mae’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (2021) yn ganllaw statudol sy’n bodoli ochr yn ochr â'r Ddeddf ac yn nodi sut mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus ganfod, asesu a chefnogi dysgwyr ag ADY. Mae'n gosod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau dysgwyr wrth wraidd y gwaith cynllunio, gan bwysleisio’r angen i ganfod achosion yn gynnar ac ymyrryd mewn da bryd. Mae'r Cod yn amlinellu dyletswyddau ar gyfer awdurdodau lleol, ysgolion, sefydliadau addysg bellach, byrddau iechyd ac eraill, gyda'r nod o sicrhau bod y system ADY yn cael ei gweithredu'n gyson a bod CDU yn cael eu defnyddio fel y dull cynllunio craidd ar gyfer pob dysgwr ag ADY. Mae'r Cod yn pwysleisio mai diben y system ADY yw sicrhau y caiff anghenion eu nodi’n gynnar fel y gellir mynd i'r afael â hwy yn gyflym. Unwaith eto, mae'r pwyslais ar anghenion a welir, nid labeli diagnostig.

2.3. Pecyn Cymorth ADY Llywodraeth Cymru

Ym mis Tachwedd 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Pecyn cymorth i rieni a gofalwyr plant ag anghenion dysgu ychwanegol'. Mae'r pecyn cymorth yn ganllaw ymarferol sydd wedi'i gynllunio i helpu rhieni a gofalwyr i ddeall sut mae'r system ADY yn gweithio a pha gymorth sydd ar gael. Cafodd ei ddatblygu gyda mewnbwn gan deuluoedd, addysgwyr, gweithwyr iechyd ac awdurdodau lleol, ac mae’n egluro cysyniadau allweddol er mwyn gwneud gwybodaeth yn gliriach ac yn fwy cyson i deuluoedd sy’n ceisio ddeall y system ADY.

Mae'r Pecyn Cymorth yn glir yn ei safbwynt ar gymorth sy'n seiliedig ar anghenion:

§    “Nid oes angen diagnosis meddygol arnoch er mwyn i'ch plentyn allu cael eu hadnabod fel plentyn sydd ag ADY. Mae penderfyniadau ynghylch y cymorth y gall fod ei angen arnynt yn seiliedig ar arwyddocâd yr angen, nid ar asesiad meddygol.” (Tudalen 6, Pennod 1: 'Cefnogi anawsterau dysgu'. Pwyslais gwreiddiol)

§    “Nid oes angen atgyfeiriad gan weithiwr proffesiynol arnoch, ac nid oes angen diagnosis ffurfiol ar eich plentyn.  Yr hyn sydd bwysicaf yw deall ac adnabod y cymorth cywir y gallai fod ei angen ar eich plentyn er mwyn cyrraedd eu llawn botensial." (Tudalen 9, Pennod 2: 'Ble i fynd am gymorth'. Pwyslais gwreiddiol)

§    (o dan Bennod 16: 'Camsyniadau cyffredin'): “Mae angen diagnosis meddygol i'ch plentyn dderbyn CDU. Ddim yn wir.“ Nid oes angen diagnosis meddygol i'ch plentyn allu cael eu hadnabod fel plentyn sydd ag ADY neu i gael CDU.  Gall plentyn neu berson ifanc fod ag ADY heb ddiagnosis, ac nid yw penderfyniadau ar ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn dibynnu ar asesiad meddygol.  Gellir rhoi CDU i blentyn neu berson ifanc heb aros am ddiagnosis, ac ni ddylid gohirio cymorth oherwydd amseroedd aros y GIG.” (Tudalen 50. Pwyslais gwreiddiol)

3. Crynodeb o'r dystiolaeth

3.1. Adolygiad thematig Estyn

Ym mis Rhagfyr 2024, cyhoeddodd Estyn adolygiad thematig o'r enw 'Y system anghenion dysgu ychwanegol: Cynnydd ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol o ran cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol'. Tynnodd yr adolygiad sylw at ddryswch eang ymhlith ysgolion ac awdurdodau lleol ynghylch y gwahaniaeth rhwng darpariaeth gyffredinol a Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol — yn ogystal â dehongliadau lleol anghyson o drothwyon ar gyfer ADY — gan greu heriau o ran canfod dysgwyr y dylid eu cofnodi fel ADY.

3.2. Niferoedd yn gostwng

Er bod y diffiniad o ADY yr un fath â diffiniad AAA, mae ystadegau'n dangos bod nifer y disgyblion a gofnodwyd fel ADY/AAA wedi gostwng yn sylweddol ers cyflwyno'r diwygiad. Mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch a yw dysgwyr yn cael eu nodi’n gywir, fel yr amlygwyd mewn erthygl gan Ymchwil y Senedd ym mis Hydref 2025.

Bu gostyngiad o 53% yn nifer y disgyblion a nodir / a gydnabyddir fel rhai sydd ag ADY dros y pedair blynedd ers cyflwyno'r system newydd gyntaf. O 92,668 (19.5% o'r holl ddisgyblion) yn 2020/21 i 43,885 (9.5% o'r holl ddisgyblion) yn 2024/25.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru gydnabod bod mwy o blant yn dod i’r amlwg sydd ag anghenion mwy cymhleth. Mae Llywodraeth Cymru yn flaenorol wedi priodoli’r gostyngiad yn niferoedd ADY i or-adrodd AAA yn y gorffennol ac i 'ddarpariaeth gyffredinol' fwy effeithiol drwy’r Cwricwlwm i Gymru, sy’n gallu diwallu anghenion llawer o ddisgyblion yn well (yn hytrach na gofyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol) yn ôl y Llywodraeth.

3.3. Defnyddio amserlenni llai

Mae'r deisebydd yn nodi bod dysgwyr yn cael eu rhoi ar amserlenni llai heb gymorth ADY, bod cymorth yn cael ei atal tra bod asesiadau diagnostig yn cael eu cynnal, a bod teuluoedd yn wynebu ymatebion anghyson gan awdurdodau lleol.

Mae’r Sefyllfa Polisi ar ADY gan Gomisiynydd Plant Cymru yn nodi bod tua thraean o'r gwaith achos yr oeddent wedi’i gael drwy’r tîm gwasanaeth Cyngor a Chymorth ar Hawliau Plant yn ymwneud â “phroblemau a wynebwyd gan blant ag anghenion dysgu ychwanegol”. Maent yn nodi eu bod wedi clywed achosion o blant yn “cael eu rhoi ar amserlenni cyfyngedig os nad yw ysgol yn gallu cwrdd â’r angen”, ac yn nodi, o dan adran 'Beth rydyn ni'n gwybod?' ymwybyddiaeth o “defnydd cynyddol o amserlenni y cyfyngwyd arnynt yn sylweddol, gan arwain at ddiffyg mynediad at addysg addas a digonol”.

4. Camau gweithredu Lywodraeth Cymru 

Mewn ymateb i bryderon (gan gynnwys nifer o ddeisebau ar y mater a Gwaith Craffu’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg), cychwynnodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS, adolygiad a oedd yn canolbwyntio ar:

§    eglurder a hygyrchedd y Ddeddf a'r canllawiau statudol;

§    sicrhau bod y fframwaith deddfwriaethol yn adlewyrchu bwriad y polisi;

§    adnabod unrhyw anghysondebau a meysydd lle gallai fod angen mwy o eglurder;

§    deall sut mae'r fframwaith deddfwriaethol yn cael ei roi ar waith yn ymarferol; a

§    nodi atebion polisi a deddfwriaethol.

Ym mis Hydref 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o'r dystiolaeth a gafodd yn ystod ei adolygiad a gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn yn nodi pum maes gweithredu allweddol. Cyhoeddwyd hefyd gyflwyniad Llywydd y Tribiwnlys Addysg ac adroddiad ar arolwg o rieni a gofalwyr.

Bydd angen diwygio'r Cod ADY, a bydd angen gwaith ymgynghori ar gyfer hyn ac felly ni fydd yn cael ei gynnal tan ar ôl etholiad y Senedd. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi canllawiau dros dro gyda'r nod o wella cysondeb y system, a dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 4 Chwefror y bydd hyn yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Mawrth eleni. Bydd ail gyfres o ganllawiau, a gyhoeddir ar yr un pryd â'r uchod, yn nodi'n benodol y disgwyliadau o ran sut y dylid cefnogi plant a phobl ifanc mewn amgylchiadau penodol, megis dysgwyr ag ADY sy'n derbyn gofal, dysgwyr sy'n cael eu haddysgu gartref yn ddewisol, a'r rhai sy'n cael addysg y tu allan i ysgol. Mae trydydd darn o ganllawiau pellach yn egluro beth a olygir gan 'ddarpariaeth sydd ar gael yn gyffredinol' yn cael ei ddatblygu ac ni fydd yn cael ei gyhoeddi tan dymor nesaf y Senedd.

4.1. Ymateb Llywodraeth Cymru i'r ddeiseb

Mae ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet i'r ddeiseb yn ailddatgan safbwynt craidd y Llywodraeth, gan nodi:

Mae'n nodi y dylai'r cymorth i blentyn ag ADY bob amser fod wedi'i seilio ar angen, ac nid oes angen diagnosis o gyflwr ar gyfer gwneud penderfyniad ynghylch ADY dysgwr nac ar gyfer darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY). Yn yr un modd, nid yw diagnosis meddygol ffurfiol o reidrwydd yn golygu bod gan blentyn neu berson ifanc ADY.”

Mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn disgrifio'r system ADY fel un sy’n canolbwyntio ar unigolion ac sy’n cael ei arwain gan anghenion, wedi'i seilio ar y Ddeddf a'r Cod ADY. Fodd bynnag, mae hi'n cydnabod problemau o ran cysondeb a gweithredu, gan gynnwys anawsterau teuluoedd o ran cael mynediad at gymorth heb ddiagnosis, ac yn priodoli'r problemau hyn i amrywiadau lleol a chamddealltwriaeth o ofynion cyfreithiol. Mae ei llythyr yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu ag awdurdodau lleol, ysgolion a rhieni i wella ymwybyddiaeth a chefnogi gweithrediad cyson darpariaeth sy'n seiliedig ar anghenion, gan ddefnyddio monitro ac adborth gan deuluoedd i fynd i'r afael â rhwystrau.

O ran amserlenni llai/rhan-amser, mae'r llythyr yn nodi:

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn glir y dylid defnyddio amserlenni rhan-amser mewn amgylchiadau eithriadol yn unig ac fel mesur tymor byr, gyda'r nod o weld y dysgwyr yn dychwelyd i addysg amser llawn lle bo hynny'n bosibl. Rydym yn cydnabod y pryderon am y defnydd cynyddol ohonynt ac yn bwriadu cyhoeddi canllawiau pellach ar amserlenni rhan-amser a mathau eraill o waharddiadau cudd.”

Mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn tynnu sylw at rôl y pecyn cymorth i rieni a gofalwyr ADY o ran mynd i'r afael â chamsyniadau (gan gynnwys ynghylch diagnosis) a rhoi gwybodaeth am gymorth ymarferol. Mae'r llythyr yn cynnwys linc ac yn gosod y pecyn cymorth fel rhan o wella’r ddealltwriaeth o'r system ymhlith teuluoedd.

5.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Mae adolygiad Llywodraeth Cymru o ddarpariaeth y system ADY a gwaith craffu'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi tynnu sylw at ddryswch ac anghysondeb parhaus yn y ffordd y mae'r diffiniad statudol o ADY yn cael ei ddehongli a'i gymhwyso. Mae hyn yn cynnwys ansicrwydd yn y ddau gam o'r asesiad: yn gyntaf, penderfynu a oes gan ddysgwr anhawster sylweddol fwy i ddysgu nag eraill o'r un oedran, ac yn ail, penderfynu a yw'r anhawster hwnnw'n gofyn am Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol yn hytrach na chefnogaeth sydd ar gael yn gyffredinol.

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi craffu ar weithrediad y diwygiadau ADY drwy gyfres o archwiliadau yn ystod tymor y Senedd hon. Cyhoeddodd adroddiad ym mis Gorffennaf 2024, a oedd yn tynnu sylw at lawer o'r materion y byddai adolygiad Llywodraeth Cymru yn eu cadarnhau ymhellach. Mae'r Pwyllgor wedi cwblhau ei bedwerydd gwiriad a’r un olaf ac wedi amlinellu ei gasgliadau mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Cabinet ar 10 Chwefror.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.